Offerynnau Statudol Cymru
2017 Rhif 946 (Cy. 235)
Y Gyfraith Gyfansoddiadol
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2017
Gwnaed
26 Medi 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Medi 2017
Yn dod i rym
11 Rhagfyr 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1).
Yn unol ag adran 126A(6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys, pan feddyliant fod hynny’n briodol.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 11 Rhagfyr 2017.
Dynodiadau
2. Mae corff sydd wedi ei restru yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn gorff dynodedig at ddibenion adran 126A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas â Gweinidogion Cymru(2).
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
26 Medi 2017
Erthygl 2
YR ATODLENCyrff Dynodedig
DCFW Limited
Innovation Point Limited
Life Sciences Hub Wales Limited
Sector Development Wales Partnership Limited
WGC Holdco Limited
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre(3)
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru(4)
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru(5)
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dyma’r ail Orchymyn sy’n dynodi cyrff penodedig mewn perthynas â Gweinidogion Cymru at ddiben cynnwys mewn cynnig Cyllidebol yr adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y cyrff hynny.
Dynodwyd cyrff penodedig eraill yn flaenorol gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2016 (O.S. 2016/1096 (Cy. 260)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
2006 p. 32. Ychwanegwyd adran 126A gan adran 44(2) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25).
Yn rhinwedd adran 124(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae Gweinidogion Cymru yn “relevant person” at ddibenion adran 126A o’r Ddeddf honno.
Sefydlwyd gan O.S. 1993/2838, erthygl 2.
Sefydlwyd gan O.S. 1998/678, erthygl 2.
Sefydlwyd gan O.S. 2009/2058 (Cy. 177), erthygl 2.
