NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae rheoliadau 3 i 15 yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010 (“Rheoliadau 2010”). Mae rheoliadau 17 a 18 yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005 (“y Rheoliadau Ardrethu Annomestig”).

Mae rheoliadau 4, 5 a 6 yn diwygio gweithrediad ac aelodaeth Cyngor Llywodraethu’r Tribiwnlys Prisio. Mae’r diwygiadau yn caniatáu i Weinidogion Cymru benodi hyd at dri pherson i fod yn aelodau o’r Cyngor Llywodraethu. Bydd y cynrychiolwyr cenedlaethol newydd hefyd yn aelodau o’r Cyngor Llywodraethu, ynghyd â’r Llywydd. Mae’r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i o leiaf bedwar aelod o’r Cyngor Llywodraethu fod yn bresennol er mwyn ffurfio cworwm mewn cyfarfod o’r Cyngor Llywodraethu.

Mae rheoliad 7 yn sefydlu Panel Penodiadau’r Cyngor Llywodraethu. O dan reoliad 13, rhaid i’r Panel Penodiadau gadw cofnodion o’i gyfarfodydd.

Mae rheoliadau 8, 9 a 15 yn diwygio sut y penodir aelodau’r Tribiwnlys Prisio. O 1 Rhagfyr 2017, penodir aelodau’r Tribiwnlys Prisio gan y Panel Penodiadau. Penodir aelodau newydd am gyfnod o 5 mlynedd a chaniateir eu hailbenodi am gyfnod pellach o 5 mlynedd os byddant, erbyn diwedd cyfnod eu hailbenodiad, wedi gwasanaethu am gyfnod o 10 mlynedd ar y mwyaf fel aelod o’r Tribiwnlys Prisio. Caniateir i aelodau presennol o’r Tribiwnlys Prisio sydd wedi gwasanaethu am gyfnod o fwy na 10 mlynedd fel aelod gael eu hailbenodi am un cyfnod pellach o 5 mlynedd.

Mae rheoliad 10 yn ymestyn cyfnod swydd y Llywydd o ddwy flynedd i dair blynedd.

Mae rheoliadau 11 a 15 yn diwygio sut mae Cadeiryddion yn cael eu penodi. Mae Cadeiryddion i’w penodi gan y Panel Penodiadau.

Mae rheoliad 12 yn disodli’r pedwar cynrychiolydd rhanbarthol â thri chynrychiolydd cenedlaethol. Mae rheoliad 22 yn diddymu swydd y dirprwy gynrychiolydd rhanbarthol.

Mae rheoliad 15 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i weithdrefn ethol y Llywydd a nodir yn Atodlen 2 i Reoliadau 2010. Mae’r weithdrefn hon hefyd yn gymwys i’r cynrychiolwyr cenedlaethol.

Mae rheoliadau 17 a 18 yn diwygio’r Rheoliadau Ardrethu Annomestig er mwyn caniatáu i apelau o dan y Rheoliadau hyn gael eu penderfynu heb wrandawiad.

Mae rheoliadau 19 i 22 yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.