Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Asesiadau Llesiant Lleol) 2017
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Asesiadau Llesiant Lleol) 2017.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Hydref 2017.
Asesiadau llesiant lleol2.
Wrth lunio asesiad o dan adran 37(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â’r materion a ddisgrifir yn adran 38(3) o’r Ddeddf honno, roi sylw i’r materion a restrir yn yr Atodlen.
YR ATODLENMaterion i roi sylw iddynt wrth lunio asesiad o dan adran 37(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
1.
2.
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn darparu bod rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, wrth lunio asesiad llesiant o dan adran 37 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, roi sylw i’r adolygiad diweddaraf o ansawdd aer ar gyfer ei ardal awdurdod lleol a gyflawnwyd o dan adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a’r mapiau sŵn strategol diweddaraf a luniwyd o dan Ran 2 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 ac a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.