Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017.
(2)
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Hydref 2017.
(3)
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “AaGIC” yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Sefydlu AaGIC2.
Mae Awdurdod Iechyd Arbennig o’r enw Addysg a Gwella Iechyd Cymru neu Health Education and Improvement Wales wedi ei sefydlu.
Swyddogaethau AaGIC3.
(1)
Mae AaGIC i arfer—
(a)
unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â chynllunio, comisiynu a chyflenwi addysg a hyfforddiant ar gyfer personau sy’n gyflogedig, neu sy’n ystyried dod yn gyflogedig, mewn unrhyw weithgaredd sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu sy’n gysylltiedig â hynny; a
(b)
unrhyw swyddogaethau eraill;
(2)
Yn yr erthygl hon, ystyr “gwasanaethau iechyd” yw gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Cyfansoddiad AaGIC4.
(1)
Mae gan AaGIC—
(a)
cadeirydd;
(b)
dim mwy na 6 aelod arall nad ydynt yn swyddogion AaGIC yn ychwanegol at y cadeirydd; ac
(c)
dim mwy na 5 aelod arall sy’n swyddogion AaGIC gan gynnwys y person sydd, am y tro, yn dal swydd y prif weithredwr.
(2)
Ni chaiff nifer yr aelodau sy’n swyddogion AaGIC fod yn fwy na nifer yr aelodau nad ydynt yn swyddogion o’r fath.
Cyfarfodydd cyhoeddus5.
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“y Ddeddf”). Mae’n sefydlu Awdurdod Iechyd Arbennig newydd, sef Addysg a Gwella Iechyd Cymru (“AaGIC”), ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei swyddogaethau a’i gyfansoddiad.
Mae erthygl 3 yn nodi prif swyddogaethau AaGIC sydd i gael eu pennu’n fwy penodol mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 24 o’r Ddeddf. Mae prif swyddogaethau AaGIC yn ymwneud â chynllunio, comisiynu a chyflenwi addysg a hyfforddiant ar gyfer personau sy’n gyflogedig, neu sy’n ystyried dod yn gyflogedig, mewn gweithgaredd sy’n ymwneud â’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae erthygl 4 yn nodi cyfansoddiad AaGIC ac mae erthygl 5 yn darparu bod Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960 yn gymwys i gyfarfodydd AaGIC.
Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gwneud unrhyw ddarpariaeth yn ymwneud â throsglwyddo swyddogion, eiddo na rhwymedigaethau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.