(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 58(8) o Ddeddf Dŵr 2003 (“y Ddeddf”) o ran Cymru.
Mae adran 58(8) o’r Ddeddf yn diwygio adran 213 o Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991 ac yn cynnwys diwygiadau i’r weithdrefn ar gyfer rhai pwerau i wneud rheoliadau.
Cychwynnwyd adran 58(8) o’r Ddeddf o ran Lloegr gan O.S. 2005/344 ac O.S. 2009/359.