Hwn yw’r pedwerydd Gorchymyn Cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Mae’n cychwyn adran 56(1) o’r Ddeddf, i’r graddau y mae’n mewnosod adran 144A yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”), ac adran 56(2) o’r Ddeddf (sy’n diwygio adran 196(6) o Ddeddf 2014). Y dyddiad cychwyn yw 4 Medi 2017.
Mae adran 144A o Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol gan awdurdodau lleol ynghylch arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys darpariaeth mewn perthynas â chynnwys a ffurf yr adroddiadau hynny.
Mae adran 56(2) o’r Ddeddf yn diwygio adran 196(6) o Ddeddf 2014 fel bod y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 144A(2)(b) o Ddeddf 2014 yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol. Gall rheoliadau o dan adran 144A(2)(b) ragnodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn adroddiadau blynyddol awdurdodau lleol.