2017 Rhif 714 (Cy. 171)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 3) 2017

Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 88(3)(d) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 20161.

Enwi a dehongli1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 3) 2017.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 14 Gorffennaf 20172.

Y diwrnod penodedig i adran 81 (sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol) o’r Ddeddf ddod i rym yw 14 Gorffennaf 2017.

Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r trydydd gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 81 (sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol) o’r Ddeddf i rym ar 14 Gorffennaf 2017.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 76

1 Ebrill 2017

O.S. 2017/504 (Cy. 104)

Adrannau 77 i 79 i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau

24 Chwefror 2017

O.S. 2017/152 (Cy. 44)

Adrannau 77 i 79 ac eithrio at ddiben gwneud rheoliadau

1 Ebrill 2017

O.S. 2017/504 (Cy. 104)

Adran 80

1 Ebrill 2017

O.S. 2017/504 (Cy. 104)