xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 2

ATODLEN 2

Rheoliad 6

ATODLEN 5Ystyriaethau ychwanegol y mae’n rhaid i awdurdodau cyfrifol roi sylw iddynt pan fo rhan gan dîm integredig cymorth i deuluoedd

1.  Manylion o unrhyw gynllun gofal neu gynllun triniaeth iechyd ar gyfer rhiant.

2.  Manylion o unrhyw gymorth neu wasanaethau a ddarperir i riant gan unrhyw berson.

3.  Unrhyw newidiadau yng ngallu rhiant i rianta o ganlyniad i’r gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarperir, neu o ganlyniad i unrhyw ffactorau eraill.

4.  Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau’r teulu ers yr adolygiad diwethaf.

5.  Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i’r teulu sy’n berthnasol.

6.  Unrhyw anawsterau y gall y teulu fod wedi eu cael wrth ymwneud â’r tîm integredig cymorth i deuluoedd.

7.  A oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion y plentyn ac anghenion rhiant, neu anghenion unrhyw aelod arall o’r teulu, a sut y gellir datrys hyn.

8.  Yr angen i baratoi i ddod â rhan y tîm integredig cymorth i deuluoedd i ben. .