(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i dair set o Reoliadau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio ac adolygu’r ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer personau o dan Ddeddf Plant 1989 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).
Mae’r diwygiadau yn gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae rhaid i awdurdodau lleol ac awdurdodau cyfrifol eraill adolygu achosion personau sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd.
Mae adrannau 166 i 169 o Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng pob bwrdd iechyd lleol a’r awdurdodau lleol sy’n dod o fewn ôl troed daearyddol pob bwrdd iechyd i sefydlu corff partneriaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol penodedig. Mae timau integredig cymorth i deuluoedd wedi eu sefydlu fel rhan o’r trefniadau hynny i ddarparu cymorth i deuluoedd sy’n cael eu hatgyfeirio atynt, yn unol â rheoliadau 16 a 17 o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015, (a wneir o dan adrannau 166 i 168 o Ddeddf 2014).
Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007 ac yn mewnosod Atodlen newydd, sef Atodlen 5 yn y Rheoliadau hynny i wneud darpariaeth ynghylch yr ystyriaethau ychwanegol y mae rhaid i awdurdodau cyfrifol o dan y Rheoliadau hynny roi sylw iddynt wrth adolygu achos plentyn y mae ei deulu yn cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd.
Mae rheoliad 3 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 2015 ac yn mewnosod Atodlen i wneud darpariaeth ynghylch yr ystyriaethau y mae rhaid i awdurdod lleol roi sylw iddynt wrth adolygu cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth person pan fo’r person yn rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd.
Mae rheoliad 4 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) ac yn mewnosod darpariaeth newydd o fewn Atodlen 8 i Reoliadau 2015 (ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C) er mwyn ychwanegu ystyriaethau ychwanegol y mae rhaid i awdurdod roi sylw iddynt wrth adolygu achos plentyn y mae ei deulu yn cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd.
Mae rheoliad 4(4) hefyd yn cywiro gwall yn rheoliad 57 o Reoliadau 2015.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.