Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2017

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 712 (Cy. 169)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

27 Mehefin 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Mehefin 2017

Yn dod i rym

28 Gorffennaf 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257 a Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76 ac O.S. 2013/1881. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy. 149) (C. 79)) fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy. 159) (C. 56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).