Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2017

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Gorffennaf 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3.  Yn rheoliad 3 (myfyrwyr cymwys)—

(a)ar ddechrau paragraff 3(k), mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (8),”;

(b)yn lle paragraff (8), rhodder—

(8) Caiff Gweinidogion Cymru farnu bod person a ddisgrifir ym mharagraff (3)(i) neu (3)(k) yn fyfyriwr cymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad oedd y person wedi gallu cwblhau’r cwrs yr oedd y benthyciad blaenorol yn ymwneud ag ef o ganlyniad i resymau personol cadarn.

4.  Yn rheoliad 14(3) o’r testun Saesneg, ar ôl “payment of”, hepgorer “the”.

5.  Yn Atodlen 1 (Myfyrwyr Cymwys), is-baragraff 9(1)—

(a)yn y testun Saesneg, ar ôl “person”, hepgorer “who”;

(b)yn y testun Saesneg, ar ddechrau paragraff (a), mewnosoder “who”;

(c)ym mharagraff (a), hepgorer “naill ai”;

(d)ar ddechrau paragraff (b), hepgorer “yn” a mewnosoder “sy’n”;

(e)ar ddiwedd paragraff (b), hepgorer “neu”;

(f)ar ddechrau paragraff (c), mewnosoder “sydd”.

Kirsty Williams

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

27 Mehefin 2017