xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Gorffennaf 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3. Yn rheoliad 3 (myfyrwyr cymwys)—
(a)ar ddechrau paragraff 3(k), mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (8),”;
(b)yn lle paragraff (8), rhodder—
“(8) Caiff Gweinidogion Cymru farnu bod person a ddisgrifir ym mharagraff (3)(i) neu (3)(k) yn fyfyriwr cymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad oedd y person wedi gallu cwblhau’r cwrs yr oedd y benthyciad blaenorol yn ymwneud ag ef o ganlyniad i resymau personol cadarn.”
4. Yn rheoliad 14(3) o’r testun Saesneg, ar ôl “payment of”, hepgorer “the”.
5. Yn Atodlen 1 (Myfyrwyr Cymwys), is-baragraff 9(1)—
(a)yn y testun Saesneg, ar ôl “person”, hepgorer “who”;
(b)yn y testun Saesneg, ar ddechrau paragraff (a), mewnosoder “who”;
(c)ym mharagraff (a), hepgorer “naill ai”;
(d)ar ddechrau paragraff (b), hepgorer “yn” a mewnosoder “sy’n”;
(e)ar ddiwedd paragraff (b), hepgorer “neu”;
(f)ar ddechrau paragraff (c), mewnosoder “sydd”.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2017