Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2017.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Gorffennaf 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau
2
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 20173 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3
Yn rheoliad 3 (myfyrwyr cymwys)—
a
ar ddechrau paragraff 3(k), mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (8),”;
b
yn lle paragraff (8), rhodder—
8
Caiff Gweinidogion Cymru farnu bod person a ddisgrifir ym mharagraff (3)(i) neu (3)(k) yn fyfyriwr cymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad oedd y person wedi gallu cwblhau’r cwrs yr oedd y benthyciad blaenorol yn ymwneud ag ef o ganlyniad i resymau personol cadarn.
4
Yn rheoliad 14(3) o’r testun Saesneg, ar ôl “payment of”, hepgorer “the”.
5
Yn Atodlen 1 (Myfyrwyr Cymwys), is-baragraff 9(1)—
a
yn y testun Saesneg, ar ôl “person”, hepgorer “who”;
b
yn y testun Saesneg, ar ddechrau paragraff (a), mewnosoder “who”;
c
ym mharagraff (a), hepgorer “naill ai”;
d
ar ddechrau paragraff (b), hepgorer “yn” a mewnosoder “sy’n”;
e
ar ddiwedd paragraff (b), hepgorer “neu”;
f
ar ddechrau paragraff (c), mewnosoder “sydd”.