- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6. Ar ôl erthygl 13 (profion cyn symud) mewnosoder—
13A.—(1) Ceir tair ardal twbercwlosis yng Nghymru, sef—
(a)ardal TB isel;
(b)ardal TB ganolradd;
(c)ardal TB uchel.
(2) Pan symudir anifail buchol i’r ardal TB isel o fuches a leolir yn—
(a)yr ardal TB ganolradd;
(b)yr ardal TB uchel;
(c)Lloegr; neu
(ch)Gogledd Iwerddon,
rhaid i’r ceidwad sy’n cael yr anifail drefnu i brawf ar ôl symud gael ei gynnal arno gan filfeddyg cymeradwy ddim llai na 60 diwrnod, ond ddim mwy na 120 diwrnod, ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd yr anifail y fangre sy’n ei gael.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i—
(a)anifeiliaid buchol sy’n cael eu cigydda o fewn 120 diwrnod i gyrraedd y fangre sy’n cael yr anifail;
(b)symud anifail buchol i le ar gyfer triniaeth filfeddygol, ar yr amod y’i dychwelir yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y driniaeth, neu y’i lleddir neu y’i hanfonir yn uniongyrchol i’w gigydda;
(c)unrhyw symudiadau a bennir yn Atodlen 3; ac
(ch)unrhyw symudiad a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru.
(4) Pan fo’n ofynnol i anifail buchol gael prawf ar ôl symud o dan baragraff (2), ni chaiff neb symud yr anifail hwnnw o’r fangre sy’n cael yr anifail hyd nes y bydd y prawf croen wedi ei gwblhau, a bod canlyniad y prawf yn negyddol, oni bai bod yr anifail hwnnw yn cael ei symud—
(a)yn uniongyrchol (neu drwy grynhoad cigydda) i’w gigydda;
(b)i uned besgi gymeradwy; neu
(c)o dan awdurdod trwydded symud a ddyroddir gan arolygydd.
(5) Pan fo’n ofynnol i anifail buchol gael prawf ar ôl symud, ond ei fod yn parhau heb ei brofi ar ôl 120 diwrnod ers cyrraedd y fangre sy’n cael yr anifail—
(a)bydd y prawf yn cael ei drin fel prawf hwyr gan Weinidogion Cymru; a
(b)rhaid i arolygydd osod cyfyngiadau ar symud ar yr holl anifeiliaid buchol yn y fangre hyd nes y bydd y prawf ar ôl symud hwyr wedi ei gwblhau, a bod canlyniad y prawf yn negyddol.
(6) Rhaid trefnu’r prawf ar ôl symud gyda milfeddyg cymeradwy ar draul ceidwad yr anifail buchol oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd yn unol ag erthygl 12(1) i gynnal prawf ar gyfer twbercwlosis o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (2).”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: