xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1379 (Cy. 122)) (“Gorchymyn 2010”).
Mae’r diwygiadau wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
Mae paragraff 1 yn cyflwyno diffiniadau o “canolfan gasglu”, y gwahanol ardaloedd twbercwlosis yng Nghymru, “uned besgi drwyddedig” a “prawf ar ôl symud”.
Mae paragraff 2 yn gwneud darpariaeth sy’n egluro’r rhagofalon rhag lledaenu clefyd.
Mae paragraffau 3 a 10 yn disodli hysbysiadau gwella bioddiogelwch â hysbysiadau gofynion bioddiogelwch.
Mae paragraff 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer hwyluso cigydda anifail a brofir ar gyfer twbercwlosis ar y fferm a’i symud wedi hynny.
Mae paragraff 5 yn egluro’r amgylchiadau pan na chaniateir defnyddio prawf croen fel prawf cyn symud, a phan na fydd prawf cyn symud yn ofynnol.
Mae paragraff 6 yn mewnosod erthygl 13A newydd yng Ngorchymyn 2010 sy’n ei gwneud yn ofynnol i geidwaid yn yr ardal TB isel sy’n cael anifeiliaid buchol o fuchesi mewn ardaloedd lle y mae nifer uwch o achosion o dwbercwlosis, neu o Loegr neu Ogledd Iwerddon, i drefnu i brawf croen ar ôl symud gael ei gynnal gan filfeddyg cymeradwy, a thalu amdano. Mae’r erthygl newydd hefyd yn nodi pryd na fydd prawf croen ar ôl symud yn ofynnol. Rhaid cynnal y prawf ddim llai na 60 diwrnod ond ddim mwy na 120 diwrnod ar ôl i’r anifeiliaid gyrraedd y fangre. Os na chynhelir y prawf rhaid i arolygydd osod cyfyngiadau ar symud ar yr holl anifeiliaid buchol yn y fangre. Dangosir y gwahanol ardaloedd twbercwlosis yng Nghymru ar y map o’r enw “ardaloedd TB Rhanbarthol Cymru”. O ganlyniad i raddfa’r map, nid yw’n bosibl ei gynnwys fel atodiad i’r Gorchymyn hwn. Gellir gweld y map ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru/tbmewngwartheg.
Mae paragraffau 7 ac 8 yn diwygio rhif yr Atodlen i Orchymyn 2010 yn dilyn cyflwyno Atodlenni 2 a 3 gan y Gorchymyn hwn.
Mae paragraff 9 yn diwygio paragraff 1 o’r Atodlen i Orchymyn 2010. Mae’n diwygio uchafswm gwerth yr iawndal ar gyfer anifail a gigyddir oherwydd twbercwlosis, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer swm yr iawndal pan na fo anifail yn cael ei adnabod yn unol â gofynion Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 (O.S. 2007/842 (Cy. 74)).
Mae paragraff 11 yn mewnosod Atodlenni 2 a 3 newydd sy’n nodi’r symudiadau a ganiateir heb brofi cyn symud neu ar ôl symud.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.