(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”) i adlewyrchu newidiadau i Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo, sef y rheolau a ddiffinnir yn y Rheoliadau hynny fel y rheolau a osodwyd fel a grybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971. Roedd y newidiadau i Atodiad FM yn golygu bod cymhwyso darpariaethau Rheoliadau 2014 yn rheoliadau 3 a 5(1) wedi dyddio.
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu rheoliad 5(1)(e) o Reoliadau 2014 (a pharagraffau diffinio ategol (2) a (3)), i ddileu darpariaethau nad oes eu hangen mwyach sy’n ymwneud â chategorïau penodol o geiswyr lloches a hawliodd loches cyn 3 Ebrill 2000. Mae rheoliadau 3 a 5 o Reoliadau 2014 yn rhagnodi’r dosbarthiadau o berson sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai ac i gael cymorth tai, yn y drefn honno.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 6(2) o Reoliadau 2014 er mwyn darparu nad yw’r rheini a restrir yn rheoliad 6(2)(a) i (f) i’w trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai (yn hytrach na llety tai) yn unol â rheoliad 6(1)(a) o Reoliadau 2014.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.