2017 Rhif 698 (Cy. 164)
Tai, Cymru

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 1(2) a (4) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 20141.

Yn unol ag adran 142(3)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2017.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Mehefin 2017.

Diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 20142.

(1)

Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 20142 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y lle priodol, mewnosoder—

“ystyr “y Confensiwn Hawliau Dynol” (“the Human Rights Convention”) yw’r Confensiwn ar Amddiffyn Hawliau Dynol a Rhyddidau Sylfaenol, a gytunwyd gan Gyngor Ewrop yn Rhufain ar 4 Tachwedd 1950 fel y mae’n cael effaith am y tro mewn perthynas â’r Deyrnas Unedig;”.

(3)

Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—

(a)

ym mharagraff (d) ar y diwedd hepgorer “ac”;

(b)

ym mharagraff (e) ar y diwedd yn lle “.” rhodder “; ac”; ac

(c)

ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

“(f)

Dosbarth F – person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau bywyd teuluol neu breifat o dan Erthygl 8 o’r Confensiwn Hawliau Dynol, a’r fath ganiatâd wedi ei roi o dan baragraff 276BE(1), paragraff 276DG neu Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo3, ac nad yw’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus. ”

(4)

Yn rheoliad 5 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—

(a)

hepgorer paragraff (1)(e);

(b)

ym mharagraff (1)(f) ar y diwedd yn lle “.” rhodder “; ac”;

(c)

ar ôl paragraff (1)(f) mewnosoder—

“(g)

Dosbarth G - person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau bywyd teuluol neu breifat o dan Erthygl 8 o’r Confensiwn Hawliau Dynol, a’r fath ganiatâd wedi ei roi o dan baragraff 276BE(1), paragraff 276DG neu Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo, ac nad yw’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus.”; a

(d)

hepgorer paragraffau (2) a (3).

(5)

Yn rheoliad 6 (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai), ym mharagraff (2) yn lle’r geiriau “dyraniad o lety tai” rhodder y geiriau “cymorth tai”.

Llofnodwyd gan

Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”) i adlewyrchu newidiadau i Atodiad FM i’r Rheolau Mewnfudo, sef y rheolau a ddiffinnir yn y Rheoliadau hynny fel y rheolau a osodwyd fel a grybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971. Roedd y newidiadau i Atodiad FM yn golygu bod cymhwyso darpariaethau Rheoliadau 2014 yn rheoliadau 3 a 5(1) wedi dyddio.

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu rheoliad 5(1)(e) o Reoliadau 2014 (a pharagraffau diffinio ategol (2) a (3)), i ddileu darpariaethau nad oes eu hangen mwyach sy’n ymwneud â chategorïau penodol o geiswyr lloches a hawliodd loches cyn 3 Ebrill 2000. Mae rheoliadau 3 a 5 o Reoliadau 2014 yn rhagnodi’r dosbarthiadau o berson sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai ac i gael cymorth tai, yn y drefn honno.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 6(2) o Reoliadau 2014 er mwyn darparu nad yw’r rheini a restrir yn rheoliad 6(2)(a) i (f) i’w trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai (yn hytrach na llety tai) yn unol â rheoliad 6(1)(a) o Reoliadau 2014.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.