Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n berthnasol i adolygiadau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’u penderfyniad i gynnwys adeilad ar restr a lunnir neu a gymeradwyir o dan adran 1 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
Maent yn cynnwys, yn benodol, ddarpariaeth mewn perthynas â’r materion a ganlyn—
Y dosbarthiadau o adolygiadau sydd i’w penderfynu gan berson penodedig yn hytrach na Gweinidogion Cymru, sail yr adolygiad, gofynion gweithdrefnol sy’n berthnasol i wneud cais a gofynion cysylltiedig (Rhan 2);
Darpariaeth weithdrefnol sy’n berthnasol i’r graddau y cynhelir adolygiad ar sail sylwadau ysgrifenedig (Rhan 3);
Darpariaeth weithdrefnol sy’n berthnasol i’r graddau y cynhelir adolygiad drwy wrandawiad (Rhan 4);
Darpariaeth weithdrefnol sy’n berthnasol i’r graddau y cynhelir adolygiad drwy ymchwiliad lleol (Rhan 5);
Materion atodol (Rhan 6); a
Darpariaeth weithdrefnol sy’n berthnasol i wneud penderfyniad ar adolygiad (Rhan 7).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Mae’r Asesiad Effaith a luniwyd ar gyfer Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn berthnasol ac ar gael oddi wrth: Gwasanaethau’r Amgylchedd Hanesyddol (Cadw), Llywodraeth Cymru, Plas Carew, Caerdydd, CF15 7QQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.cymru.gov.uk.