Cyhoeddwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle’r OS sy’n dwyn yr un rhif ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

2017 Rhif 644 (Cy. 150)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adolygu Penderfyniadau Rhestru) (Cymru) 2017

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2D o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 19901 ac Atodlen 1B iddi, a’r pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 93 o’r Ddeddf honno ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: