RHAN 3Sylwadau ysgrifenedig

Y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig9

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bernir at ddibenion adran 1AE(5)(c) o Ddeddf 1979 bod y dogfennau a ganlyn yn ffurfio sylwadau ysgrifenedig y personau a ganlyn mewn perthynas â’r adolygiad—

a

yn achos y ceisydd—

i

cais a wnaed yn unol â rheoliad 5; a

ii

unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig a wnaed o dan reoliad 8(3);

b

yn achos Gweinidogion Cymru, datganiad Gweinidogion Cymru ar yr adolygiad a’r dogfennau, y deunyddiau a’r dystiolaeth sy’n dod gyda’r datganiad;

c

yn achos person â buddiant, unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn flaenorol o dan adran 1AE o Ddeddf 1979 gan y person hwnnw;

d

yn achos unrhyw berson neu gorff y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 7(1)(b), unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn flaenorol gan y fath berson neu gorff ynghylch cynnig Gweinidogion Cymru i—

i

cynnwys yr heneb y mae adolygiad yn ymwneud â hi ar y Gofrestr; neu

ii

gwneud diwygiad perthnasol o’r math a ddisgrifir yn adran 1AA(5)(a) o Ddeddf 1979 mewn perthynas â’r heneb ar y Gofrestr.

2

Caiff person â buddiant neu unrhyw berson neu gorff y rhoddir hysbysiad iddo o dan reoliad 7(1)(b), yn ogystal â’r sylwadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(c) neu (d) (yn ôl y digwydd), gyflwyno sylwadau ysgrifenedig pellach o dan adran 1AE(5)(c) o Ddeddf 1979, a phan fo’n gwneud hynny rhaid iddo anfon tri chopi o’r fath sylwadau at y person penodedig o fewn y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad dechrau.

3

Rhaid i’r person penodedig, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael unrhyw sylwadau a gyflwynir o dan baragraff (2), anfon copi o’r fath sylwadau at y ceisydd ac at Weinidogion Cymru.

4

Rhaid i’r ceisydd a Gweinidogion Cymru anfon at y person penodedig ddau gopi o unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig sydd ganddynt ynghylch unrhyw sylwadau a gyflwynwyd o dan baragraff (1)(c), (d) neu (2) fel eu bod yn dod i law o fewn y cyfnod o chwe wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad dechrau.

5

Pan fo’r person penodedig wedi cael unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig yn unol â pharagraff (4), rhaid i’r person penodedig—

a

yn achos unrhyw sylwadaethau o’r fath a geir oddi wrth y ceisydd, anfon copi at Weinidogion Cymru; a

b

yn achos unrhyw sylwadaethau o’r fath a geir oddi wrth Weinidogion Cymru, anfon copi at y ceisydd.

Pan fo paragraffau (2) i (4) yn gosod gofyniad ar unrhyw berson neu unrhyw gorff i anfon mwy nag un copi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig neu sylwadaethau ysgrifenedig (yn ôl y digwydd) at unrhyw berson arall neu i unrhyw gorff arall, mae’r fath ofyniad i’w ddehongli fel pe bai’n caniatáu anfon un fersiwn yn unig o’r ddogfen honno at ddiben bodloni’r gofyniad hwnnw mewn unrhyw achos pan fo’r person y gosodir y gofyniad arno yn dewis anfon y sylwadau neu’r sylwadaethau drwy ddull cyfathrebu electronig.

Penodi asesydd10

Pan fo asesydd yn cael ei benodi o dan baragraff 4(1)(b) o Atodlen A2 i Ddeddf 1979 (penderfyniadau ar adolygiadau gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru), rhaid i’r person penodedig hysbysu’r ceisydd a Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig ynghylch y penodiad, enw’r person a benodir a’r materion y bydd yn rhoi cyngor arnynt.