xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 641 (Cy. 147)

Henebion Hynafol, Cymru

Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 2017

Gwnaed

4 Mai 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mai 2017

Yn dod i rym

31 Mai 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 47 a 60 o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), a thrwy’r pwerau a roddir iddynt gan adrannau 1AD a 9ZL o’r Ddeddf honno(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 31 Mai 2017.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1979” (“the 1979 Act”) yw Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979.

Hawliadau am ddigollediad

2.—(1Rhaid gwneud hawliad am ddigollediad i Weinidogion Cymru yn ysgrifenedig, a rhaid ei gyflwyno fel ei fod yn dod i’w llaw hwythau o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau ag—

(a)yn achos digollediad sy’n daladwy o dan adran 1AD o Ddeddf 1979 (digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim), y dyddiad y mae’r warchodaeth interim yn peidio â chael effaith;

(b)yn achos digollediad sy’n daladwy o dan adran 7 o Ddeddf 1979 (digollediad am wrthod cydsyniad heneb gofrestredig)(4), ddyddiad yr hysbysiad gwrthod neu, yn ôl y digwydd, ddyddiad rhoi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau cydsyniad heneb gofrestredig;

(c)yn achos digollediad sy’n daladwy o dan adran 9 o Ddeddf 1979 (digollediad pan fo gwaith sy’n effeithio ar heneb gofrestredig yn peidio â bod yn awdurdodedig), y dyddiad y mae’r gwaith yn peidio â bod yn awdurdodedig;

(d)yn achos digollediad sy’n daladwy o dan adran 9ZL o Ddeddf 1979 (hysbysiad stop dros dro: digollediad)—

(i)o dan yr amgylchiadau a nodir yn adran 9ZL(2)(a) o Ddeddf 1979, y dyddiad yr arddangosir yr hysbysiad stop dros dro am y tro cyntaf; neu

(ii)o dan yr amgylchiadau a nodir yn adran 9ZL(2)(b) o Ddeddf 1979, y dyddiad y tynnir yr hysbysiad stop dros dro yn ôl; neu

(iii)o dan yr amgylchiadau pan fo paragraffau (i) a (ii) ill dau o is-baragraff (d) yn gymwys, y diweddaraf o’r dyddiadau sy’n gymwys i’r paragraffau hynny;

(e)yn achos digollediad y gellir ei adennill o dan adran 46 o Ddeddf 1979 (digollediad am ddifrod a achosir drwy arfer pwerau penodol o dan y Ddeddf hon)(5), y dyddiad yr achoswyd y difrod neu, pan fo’r difrod wedi ei achosi o ganlyniad i weithred sy’n parhau, y dyddiad y daeth y weithred i ben.

(2Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod rheswm rhesymol dros fethu â gwneud hawliad o fewn y cyfnod a nodir ym mharagraff (1) cânt ar unrhyw adeg estyn y cyfnod y caniateir gwneud hawliad o’i fewn.

Darpariaeth dirymu ac arbed

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 1991(6) wedi eu dirymu.

(2Mae’r Rheoliadau a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â hawliad am ddigollediad sy’n dod i law Gweinidogion Cymru cyn 31 Mai 2017.

Ken Skates

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, un o Weinidogion Cymru

4 Mai 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 1991 at ddiben gweithredu newidiadau a wnaed i Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (“Deddf 1979”) gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.

Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth weithdrefnol ynghylch y cyfnod y mae’n rhaid gwneud hawliadau am ddigollediad o’i fewn, a’r dull o wneud yr hawliadau hynny, o dan adrannau 1AD (digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim), 7 (digollediad am wrthod cydsyniad heneb gofrestredig), 9 (digollediad pan fo gwaith sy’n effeithio ar heneb gofrestredig yn peidio â bod yn awdurdodedig), 9ZL (hysbysiad stop dros dro: digollediad) a 46 (digollediad am ddifrod a achosir drwy arfer pwerau penodol o dan y Ddeddf hon) o Ddeddf 1979, i Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ddirymu ac arbed mewn cysylltiad â Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 1991.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Mewnosodwyd adrannau 1AD a 9ZL gan adrannau 3(1) a 13(1) yn eu tro o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (anaw 4) (“Deddf 2016”).

(4)

Diwygiwyd adran 7 gan adran 10(1) a (2) o Ddeddf 2016. Ceir diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(5)

Diwygiwyd adran 46 gan adran 12(1) o Ddeddf 2016.