Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 2017
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 31 Mai 2017.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1979” (“the 1979 Act”) yw Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979.
Hawliadau am ddigollediad2.
(1)
Rhaid gwneud hawliad am ddigollediad i Weinidogion Cymru yn ysgrifenedig, a rhaid ei gyflwyno fel ei fod yn dod i’w llaw hwythau o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau ag—
(a)
yn achos digollediad sy’n daladwy o dan adran 1AD o Ddeddf 1979 (digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim), y dyddiad y mae’r warchodaeth interim yn peidio â chael effaith;
(b)
(c)
yn achos digollediad sy’n daladwy o dan adran 9 o Ddeddf 1979 (digollediad pan fo gwaith sy’n effeithio ar heneb gofrestredig yn peidio â bod yn awdurdodedig), y dyddiad y mae’r gwaith yn peidio â bod yn awdurdodedig;
(d)
yn achos digollediad sy’n daladwy o dan adran 9ZL o Ddeddf 1979 (hysbysiad stop dros dro: digollediad)—
(i)
o dan yr amgylchiadau a nodir yn adran 9ZL(2)(a) o Ddeddf 1979, y dyddiad yr arddangosir yr hysbysiad stop dros dro am y tro cyntaf; neu
(ii)
o dan yr amgylchiadau a nodir yn adran 9ZL(2)(b) o Ddeddf 1979, y dyddiad y tynnir yr hysbysiad stop dros dro yn ôl; neu
(iii)
o dan yr amgylchiadau pan fo paragraffau (i) a (ii) ill dau o is-baragraff (d) yn gymwys, y diweddaraf o’r dyddiadau sy’n gymwys i’r paragraffau hynny;
(e)
(2)
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod rheswm rhesymol dros fethu â gwneud hawliad o fewn y cyfnod a nodir ym mharagraff (1) cânt ar unrhyw adeg estyn y cyfnod y caniateir gwneud hawliad o’i fewn.
Darpariaeth dirymu ac arbed3.
(1)
(2)
Mae’r Rheoliadau a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â hawliad am ddigollediad sy’n dod i law Gweinidogion Cymru cyn 31 Mai 2017.
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 1991 at ddiben gweithredu newidiadau a wnaed i Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (“Deddf 1979”) gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.
Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth weithdrefnol ynghylch y cyfnod y mae’n rhaid gwneud hawliadau am ddigollediad o’i fewn, a’r dull o wneud yr hawliadau hynny, o dan adrannau 1AD (digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim), 7 (digollediad am wrthod cydsyniad heneb gofrestredig), 9 (digollediad pan fo gwaith sy’n effeithio ar heneb gofrestredig yn peidio â bod yn awdurdodedig), 9ZL (hysbysiad stop dros dro: digollediad) a 46 (digollediad am ddifrod a achosir drwy arfer pwerau penodol o dan y Ddeddf hon) o Ddeddf 1979, i Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ddirymu ac arbed mewn cysylltiad â Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 1991.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.