(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae adran 54 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“Deddf 1990”) yn galluogi awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru i wneud gwaith yr ymddengys iddynt ei fod yn angenrheidiol ar frys er mwyn diogelu adeiladau rhestredig.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r gyfradd llog ar dreuliau y caniateir i awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru eu hadennill o dan adran 55 o Ddeddf 1990 mewn perthynas â gwaith o’r fath.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.