Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”).

Mae erthygl 2 yn dwyn adran 30(6) (gwaith brys: estyn y cwmpas ac adennill costau) o Ddeddf 2016 i rym, i’r graddau y mae’n rhoi pŵer i wneud gorchmynion o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 3 yn dwyn adran 34 (rhestr o enwau lleoedd hanesyddol) o Ddeddf 2016 i rym ar 8 Mai 2017.

Mae erthygl 4 yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2016 i rym ar 31 Mai 2017:

  • adran 4 (diwygiadau sy’n ymwneud â’r Gofrestr: darpariaeth ganlyniadol);

  • adran 25 (diwygiadau sy’n ymwneud â rhestru adeiladau dros dro);

  • adran 26 (diwygiadau sy’n ymwneud â rhestru adeiladau: darpariaeth ganlyniadol);

  • adran 35 (cofnodion amgylchedd hanesyddol);

  • adran 36 (mynediad i gofnodion amgylchedd hanesyddol); ac

  • adran 37 (canllawiau).

Mae erthygl 5 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 i rym, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ar 31 Mai 2017:

  • adran 3 (diwygiadau sy’n ymwneud â’r Gofrestr);

  • adran 5 (symleiddio’r broses);

  • adran 24 (diwygiadau sy’n ymwneud â rhestru adeiladau);

  • adran 30(6) (gwaith brys: estyn y cwmpas ac adennill costau);

  • Atodlen 1; ac

  • Atodlen 2.

Mae erthygl 6 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.

Gweler adran 41 (dod i rym) o Ddeddf 2016 am ddarpariaethau a ddaeth i rym pan basiwyd Deddf 2016 ac ar ôl hynny.