Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 596 (Cy. 139)

Hadau, Cymru

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

21 Ebrill 2017

Laid before the National Assembly for Wales

26 Ebrill 2017

Yn dod i rym

18 Mai 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 16 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru yr effeithir arnynt.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2017.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 18 Mai 2017.

Diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016

2.—(1Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Rheoliad 3 (dehongli: offerynnau Ewropeaidd) yn lle’r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” rhodder—

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd(3);.

(3Yn Rhan 1 o Atodlen 2 (labeli swyddogol a dogfennau swyddogol), ar ôl paragraff 7(b)(i), mewnosoder—

(ia)rhif cyfresol wedi ei neilltuo yn swyddogol;.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

21 Ebrill 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 (O.S. 2016/106 (Cy. 52)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2016/317 (OJ L 60, 5.3.2016, tt. 72–75), sy’n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC (OJ L 193, 20.7.2002, tt. 60–73), drwy ddiwygio’r gofynion ar gyfer y label swyddogol ar datws hadyd sylfaenol ac ardystiedig yn Rheoliadau 2016.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1964 (p.14); diwygiwyd adran 16(1) a mewnosodwyd adran 16(1A) gan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i’r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 2 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 60, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2016/317 (OJ L 60, 5.3.2016, t. 72).