2017 Rhif 596 (Cy. 139)
Hadau, Cymru

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed
Laid before the National Assembly for Wales
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 16 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 19641, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru yr effeithir arnynt.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2017.

(2)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 18 Mai 2017.

Diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 20162.

(1)

Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 20162 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn Rheoliad 3 (dehongli: offerynnau Ewropeaidd) yn lle’r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” rhodder—
“ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd3;”.

(3)

Yn Rhan 1 o Atodlen 2 (labeli swyddogol a dogfennau swyddogol), ar ôl paragraff 7(b)(i), mewnosoder—

“(ia)

rhif cyfresol wedi ei neilltuo yn swyddogol;”.

Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 (O.S. 2016/106 (Cy. 52)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2016/317 (OJ L 60, 5.3.2016, tt. 72–75), sy’n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC (OJ L 193, 20.7.2002, tt. 60–73), drwy ddiwygio’r gofynion ar gyfer y label swyddogol ar datws hadyd sylfaenol ac ardystiedig yn Rheoliadau 2016.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.