RHAN 4LL+CLlunio Datganiadau Amgylcheddol

Gweithdrefn i hwyluso llunio datganiadau amgylcheddolLL+C

16.—(1Caiff unrhyw berson sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn roi hysbysiad i’r awdurdod hwnnw neu i Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn adnabod y tir a natur a diben y datblygiad, a rhaid iddo ddangos y prif ganlyniadau amgylcheddol y mae’r person sy’n rhoi’r hysbysiad yn bwriadu cyfeirio atynt yn y datganiad amgylcheddol.

(3Rhaid i dderbynnydd—

(a)hysbysiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1); neu

(b)datganiad neu gadarnhad a wneir yn unol â rheoliad 11(4)(a), 12(6) neu 13(7)

(i)hysbysu’r ymgynghoreion am enw a chyfeiriad y person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol a’r ddyletswydd a osodir ar yr ymgynghoreion gan baragraff (4) er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r person hwnnw; a

(ii)hysbysu’r person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol o enwau a chyfeiriadau’r ymgynghoreion a hysbyswyd felly.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol ac unrhyw ymgynghorai a hysbysir yn unol â pharagraff (3), ymgynghori â’r person, os bydd y person hwnnw sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol yn gofyn am hynny, er mwyn penderfynu a oes gan yr awdurdod neu’r ymgynghorai unrhyw wybodaeth yn eu meddiant y mae’r person hwnnw, neu y maent hwy, yn ei hystyried yn berthnasol ar gyfer llunio’r datganiad amgylcheddol. Os oes ganddynt, rhaid i’r awdurdod neu’r ymgynghorai sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i’r person hwnnw.

(5Rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol neu ymgynghorai sy’n cael gofyniad am wybodaeth o dan baragraff (4) ei drin fel gofyniad am wybodaeth o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 16 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)