2017 Rhif 567 (Cy. 136)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, gan eu bod wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 mewn perthynas â’r gofyniad i asesu’r effaith ar yr amgylchedd y mae prosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn ei chael, i’r graddau y mae a wnelo â chynllunio gwlad a thref2, drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno, adran 71A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19903, ac wedi ystyried y meini prawf dethol yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2011/92/EU4 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd5, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.