2017 Rhif 565 (Cy. 134)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â—

a

y gofyniad am asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd yn sgil prosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd 2; a

b

cadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt3.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno, ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offerynnau’r UE fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.