(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae adran 14A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol lunio a chyhoeddi cynllun ar ôl cynnal asesiad o anghenion o dan adran 14 o Ddeddf 2014 (a adwaenir fel “asesiad poblogaeth”). Rhaid i’r cynllun hwn (a adwaenir fel “cynllun ardal”) nodi, ymhlith pethau eraill, ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r corff yn bwriadu eu darparu, neu drefnu iddynt gael eu darparu, mewn ymateb i’r asesiad poblogaeth.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau ardal, gan gynnwys pennu pa bryd y mae cynllun ardal i gael ei gyhoeddi (rheoliad 2), adolygu a diwygio cynlluniau ardal (rheoliad 3), personau y dylid darparu copïau o’r cynlluniau ardal iddynt (rheoliad 4), cymryd camau i ymgysylltu â dinasyddion, sefydliadau’r sector preifat a’r trydydd sector a chyrff cyhoeddus wrth lunio cynlluniau ardal (rheoliadau 5 a 6) a monitro a gwerthuso cynlluniau ardal (rheoliad 7).
Mae’r Rheoliadau yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sut y mae pob un o’r rheoliadau i fod yn gymwys os yw awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu arfer pwerau o dan adran 14A(4) neu (5) o Ddeddf 2014 i lunio a chyhoeddi cynllun ardal ar y cyd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.