2017 Rhif 548 (Cy. 125)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) (Diwygio) (Cymru) 2017

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 199 a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901, ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) (Diwygio) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.

(2)

Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3)

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf Gynllunio” (“the Planning Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 19993.

Diwygio Rheoliadau 19992.

(1)

Mae Rheoliadau 1999 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Mae’r Atodlen (Ffurf ar Orchymyn Cadw Coed) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)

yn erthygl 7, hepgorer paragraff (2);

(b)

yn Rhan 1 o Atodlen 2, mae’r addasiadau a’r newidiadau i adran 784 o’r Ddeddf Gynllunio a grybwyllir yng ngholofn (2) o Ran 1 o Atodlen 2 wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(i)

ym mharagraff (a) ar ôl “In subsection (1)” mewnosoder “omit paragraph (aa) and”;

(ii)

ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

“(ca)

After subsection (3) insert—

“(3A)

The notice mentioned in subsection (3) must be accompanied by a full statement of case.”.

(iii)

ym mharagraff (d) yn lle is-adran (4) a amnewidiwyd rhodder—

“(4)

The appellant must serve on the authority, as soon as reasonably practicable, a copy of—

(a)

the notice mentioned in subsection (3); and

(b)

the full statement of case.”;

(iv)

ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

“(da)

Omit subsections (4A) to (4BB).”;

(v)

ym mharagraff (e) yn is-adran (5) a amnewidiwyd ar ôl “the application of section 79(1)” mewnosoder “and section 319B(7)”;

(vi)

ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

“(f)

After subsection (5) insert—

“(6)

In this section “full statement of case” means and is comprised of a written statement containing full particulars of the case the appellant proposes to put forward in relation to the appeal and copies of any supporting documents the appellant proposes to refer to or put in evidence.”.

(c)

mae’r addasiadau a’r newidiadau i adran 795 o’r Ddeddf Gynllunio a grybwyllir yng ngholofn (2) o Ran 1 o Atodlen 2 wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(i)

ym mharagraff (a) yn lle “subsections (1) and (2)” rhodder “subsection (1)”;

(ii)

yn lle paragraff (b) rhodder—

“(b)

Omit subsections (1A) to (3A).”;

(iii)

yn lle paragraff (c) rhodder—

“(c)

For subsection (4), substitute—

“(4)

The provisions of section 70(1), (1A) and (1B) apply, with any necessary modifications, in relation to an appeal to the Secretary of State under section 78 as they apply in relation to an application for consent under a tree preservation order which falls to be determined by the authority.”.

(iv)

ym mharagraff (d) yn lle “(6A)” rhodder “(6ZA)”;

(v)

ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

“(da)

In subsection (6A), for “such an appeal” substitute “an appeal in relation to an application for consent under a tree preservation order”.”;

(d)

hepgorer Rhan 2 o Atodlen 2.

Darpariaethau trosiannol ac arbed3.

(1)

Mae paragraff (2) yn gymwys pan wnaed unrhyw un neu ragor o’r canlynol cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym—

(a)

cais am ganiatâd o dan orchymyn cadw coed,

(b)

cais am unrhyw ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan amod a osodir ar roi caniatâd o dan orchymyn o’r fath, neu

(c)

cyfarwyddyd o dan orchymyn cadw coed neu gais am unrhyw ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan y fath gyfarwyddyd.

(2)

Mae Rheoliadau 1999 yn gymwys i apêl mewn perthynas â’r fath gais neu gyfarwyddyd fel pe na bai’r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(2)(b)(ii), (iii) a (vi) wedi eu gwneud.

Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (“Rheoliadau 1999”).

Mae rheoliad 2 o Reoliadau 1999 yn gwneud darpariaeth bod rhaid i Orchymyn Cadw Coed fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hynny, neu ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg.

Mae erthygl 7 o’r ffurf ar Orchymyn Cadw Coed a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau 1999 (“y Gorchymyn”) yn cymhwyso darpariaethau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, gan gynnwys adrannau 78 a 79 o’r Ddeddf honno, i ganiatadau o dan y Gorchymyn a cheisiadau am ganiatâd o’r fath, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a’r newidiadau a grybwyllir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn. Mae’r darpariaethau fel y’u haddaswyd a’u newidiwyd yn cael eu nodi yn Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau yn Rhan 1 ac yn dileu Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn.

Effaith y diwygiadau yw ei gwneud yn ofynnol—

(a)

bod hysbysiad apêl yn dod gyda datganiad achos llawn ar ffurf datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys manylion llawn achos yr apelydd a chopïau o ddogfennau ategol; a

(b)

bod yr apelydd yn anfon, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gopi o’r hysbysiad apêl a chopi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod a wnaeth y gorchymyn cadw coed.

Ceir darpariaethau trosiannol ac arbed.

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru