(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (“Rheoliadau 1999”).
Mae rheoliad 2 o Reoliadau 1999 yn gwneud darpariaeth bod rhaid i Orchymyn Cadw Coed fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hynny, neu ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg.
Mae erthygl 7 o’r ffurf ar Orchymyn Cadw Coed a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau 1999 (“y Gorchymyn”) yn cymhwyso darpariaethau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, gan gynnwys adrannau 78 a 79 o’r Ddeddf honno, i ganiatadau o dan y Gorchymyn a cheisiadau am ganiatâd o’r fath, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a’r newidiadau a grybwyllir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn. Mae’r darpariaethau fel y’u haddaswyd a’u newidiwyd yn cael eu nodi yn Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau yn Rhan 1 ac yn dileu Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn.
Effaith y diwygiadau yw ei gwneud yn ofynnol—
(a)bod hysbysiad apêl yn dod gyda datganiad achos llawn ar ffurf datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys manylion llawn achos yr apelydd a chopïau o ddogfennau ategol; a
(b)bod yr apelydd yn anfon, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gopi o’r hysbysiad apêl a chopi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod a wnaeth y gorchymyn cadw coed.
Ceir darpariaethau trosiannol ac arbed.
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru