2017 Rhif 542 (Cy. 120)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62, 78, 195 a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2017 a daw i rym ar 5 Mai 2017.

2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 20123.

Diwygiadau i Orchymyn 20122

Mae Gorchymyn 2012 wedi ei ddiwygio yn unol â’r darpariaethau a ganlyn.

Dehongli3

Yn erthygl 2(1) yn y lle priodol mewnosoder—

  • ystyr “datganiad achos llawn” (“full statement of case”) yw, ac mae’n cynnwys—

    1. a

      datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys manylion llawn yr achos—

      1. i

        y mae’r ceisydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r cais sydd wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf 19904; neu

      2. ii

        y mae’r apelydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990; a

    2. b

      copïau o unrhyw ddogfennau ategol y mae’r ceisydd neu’r apelydd yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;

Atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru4

Yn lle erthygl 13 (hysbysiad o atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru) a’i bennawd rhodder—

Atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru13

1

Wrth atgyfeirio unrhyw gais at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol), rhaid i awdurdod cynllunio lleol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

a

cyflwyno i’r ceisydd hysbysiad o atgyfeirio; a

b

anfon copi o ffeil y cais at Weinidogion Cymru.

2

Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon copi o’r hysbysiad o atgyfeirio at Weinidogion Cymru ar yr un pryd ag y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon at y ceisydd.

3

Caiff ceisydd y mae hysbysiad o atgyfeirio yn cael ei gyflwyno iddo ddewis cyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru.

4

Rhaid i geisydd sy’n dewis gwneud hynny anfon—

a

y datganiad achos llawn fel bod Gweinidogion Cymru yn ei gael o fewn 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o atgyfeirio yn cael ei gyflwyno;

b

copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod cynllunio lleol ar yr un pryd ag y caiff ei anfon at Weinidogion Cymru.

5

Yn yr erthygl hon—

a

ystyr “ffeil y cais” (“application file”) yw’r cais ynghyd â dogfennau atodol a’r holl ohebiaeth â’r awdurdod cynllunio lleol sy’n ymwneud â’r cais; a

b

ystyr “hysbysiad o atgyfeirio” (“notice of reference”) yw hysbysiad—

i

sy’n rhoi gwybod i’r ceisydd bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru;

ii

sy’n nodi’r rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru dros ddyroddi’r cyfarwyddyd; a

iii

sy’n hysbysu’r ceisydd—

aa

y caiff y ceisydd gyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru, os yw’n dewis gwneud hynny;

bb

os yw’r ceisydd yn dewis cyflwyno datganiad achos llawn, rhaid i Weinidogion Cymru ei gael o fewn 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o atgyfeirio yn cael ei gyflwyno; ac

cc

bod rhaid anfon copi o’r datganiad achos llawn (os yw’n gymwys) i’r awdurdod cynllunio lleol ar yr un pryd ag y caiff ei anfon at Weinidogion Cymru.

Apelau o dan adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19905

1

Yn erthygl 26(1)5

a

yn is-baragraff (a) hepgorer “, o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2),”;

b

yn is-baragraff (a) ar ôl “gan Weinidogion Cymru” mewnosoder “a datganiad achos llawn”;

c

ar ddiwedd is-baragraff (b) mewnosoder “a chopi o’r datganiad achos llawn”.

2

Yn erthygl 26(2), yn lle “Y terfyn amser a grybwyllir ym mharagraff (1) yw” rhodder “At ddibenion adran 78(3) o Ddeddf 1990 y cyfnod amser a ragnodir y mae’n rhaid cyflwyno apêl ynddo o dan adran 78(1) o’r Ddeddf honno yw”.

3

Yn erthygl 26, yn lle paragraff (4) rhodder—

4

Caiff Gweinidogion Cymru wrthod derbyn hysbysiad o apêl—

a

o dan adran 78(1) o Ddeddf 1990 os nad yw’r dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraffau (1) a (3) wedi eu cyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod amser a ragnodir ym mharagraff (2);

b

o dan adran 78(2) o Ddeddf 1990 os nad yw’r dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraffau (1) a (3) wedi eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Apelau o dan adran 195 o Ddeddf 19906

Ar ôl erthygl 26A mewnosoder—

Apelau o dan adran 195 o Ddeddf 199026B

1

Rhaid i geisydd sy’n dymuno apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 195 o Ddeddf 1990 (apelau yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais o’r fath) roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru drwy—

a

cyflwyno i Weinidogion Cymru ffurflen a gafwyd gan Weinidogion Cymru, ynghyd â—

i

y cyfryw rai o’r dogfennau a bennir ym mharagraff (2) sy’n berthnasol i’r apêl; a

ii

datganiad achos llawn;

b

cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol gopi o’r ffurflen a grybwyllir yn is-baragraff (a), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ynghyd â chopi o unrhyw ddogfennau perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (2)(ch) a chopi o’r datganiad achos llawn.

2

Y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a)(i) yw—

a

y cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol a arweiniodd at yr apêl;

b

yr holl blaniau, lluniadau a dogfennau a anfonwyd at yr awdurdod mewn cysylltiad â’r cais;

c

yr holl ohebiaeth gyda’r awdurdod mewn perthynas â’r cais;

ch

unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau eraill mewn perthynas â’r cais nad oedd wedi eu hanfon at yr awdurdod;

d

yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad, os oes un.

3

At ddibenion adran 195(1B) o Ddeddf 1990, y cyfnod amser a ragnodir y mae’n rhaid i apêl a wneir o dan adran 195(1)(a) o’r Ddeddf honno gael ei gwneud ynddo yw 6 mis o ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad neu ddyfarniad sy’n arwain at yr apêl.

4

Caiff Gweinidogion Cymru wrthod derbyn hysbysiad o apêl—

a

o dan adran 195(1)(a) o Ddeddf 1990 os na chyflwynir y dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraffau (1) a (2) i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod amser a ragnodir ym mharagraff (3);

b

o dan adran 195(1)(b) o Ddeddf 1990 os na chyflwynir y dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraffau (1) a (2) i Weinidogion Cymru.

5

Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu drefnu ar gyfer darparu, gwefan i’w defnyddio at ba bynnag ddibenion a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru—

a

sy’n ymwneud ag apelau o dan adran 195 o Ddeddf 1990 a’r erthygl hon, a

b

y gellir eu cyflawni yn electronig.

6

Pan fo person yn rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.

Amrywio ceisiadau ar ôl hysbysiad o apêl7

Ar ôl erthygl 26B mewnosoder—

Amrywio ceisiadau ar ôl hysbysiad o apêl26C

1

At ddibenion adrannau 78(4BA) a 195(1DA) o Ddeddf 1990 yr amgylchiad a ragnodir yw bod y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef yn cynnwys gwall cywiradwy.

2

Mae cais sydd wedi ei amrywio o dan yr amgylchiad a ragnodir ym mharagraff (1) yn destun unrhyw ymgynghori pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

3

Yn yr erthygl hon ystyr “gwall cywiradwy” (“correctable error”) yw gwall—

a

sydd wedi ei gywiro er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais a’r dogfennau atodol yn gyson; a

b

nad yw’n addasu hanfod y cais.

Darpariaethau trosiannol ac arbed8

1

Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn digwydd mewn perthynas â chais a wnaed cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym—

a

bod y cais yn cael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, neu

b

bod apêl yn cael ei wneud.

2

Mae Gorchymyn 2012 yn gymwys i’r cais hwnnw neu’r apêl honno fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan erthyglau 2 i 7 wedi eu gwneud.

Jane HuttUn o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”).

Mae’r prif newidiadau fel a ganlyn—

1

diwygiadau i’r weithdrefn mewn perthynas â cheisiadau a atgyfeirir at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”), gan gynnwys darpariaeth i geisydd gyflwyno datganiad achos llawn o fewn cyfnod amser penodedig os yw’r ceisydd yn dewis gwneud hynny (erthygl 4 sy’n rhoi erthygl 13 newydd yn lle’r un bresennol yng Ngorchymyn 2012).

2

diwygiadau i’r weithdrefn mewn perthynas ag apelau o dan adran 78 o Ddeddf 1990 i’w gwneud yn ofynnol—

a

i ddatganiad achos llawn fynd gyda’r hysbysiad o apêl; a

b

i’r apelydd anfon copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod cynllunio lleol (erthygl 5 sy’n diwygio erthygl 26 o Orchymyn 2012).

3

darpariaeth bod y weithdrefn apelio o dan adran 195 o Ddeddf 1990 (apelau yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais o’r fath)—

a

yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad achos llawn fynd gyda’r hysbysiad o apêl;

b

yn ei gwneud yn ofynnol i’r apelydd anfon copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod cynllunio lleol; ac

c

yn darparu bod rhaid i geisydd sy’n dymuno apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais o’r fath wneud hynny o fewn chwe mis o ddyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad sy’n arwain at yr apêl (erthygl 6 sy’n mewnosod erthygl 26B yng Ngorchymyn 2012).

4

darpariaeth o dan adran 78(4BA) a (4BB) ac adran 195(1DA) ac (1DB) o Ddeddf 1990 (a fewnosodwyd gan adran 47(1) a (2) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015) i—

a

rhagnodi amgylchiad o dan adrannau 78(4BA) a 195(1DA) pan ganiateir amrywio cais unwaith i’r hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno; a

b

darparu bod cais sy’n cael ei amrywio yn y fath fodd yn destun unrhyw ymgynghori pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol (erthygl 7 sy’n mewnosod erthygl 26C yng Ngorchymyn 2012).

Mae erthygl 8 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.