(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 mewn cysylltiad â ffioedd am geisiadau tybiedig ac yn ei gwneud yn ofynnol—
(a)i Weinidogion Cymru anfon copi o’r hysbysiad sy’n pennu’r amser ar gyfer talu’r ffi at yr awdurdod perthnasol ar yr un pryd ag yr anfonir yr hysbysiad at yr apelydd;
(b)i’r awdurdod perthnasol hysbysu Gweinidogion Cymru pan fydd y ffi wedi ei thalu neu os nad yw’r ffi wedi ei thalu yn yr amser penodedig.
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn http://www.llyw.cymru .