NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) ac yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i gychwyn Rhannau 2 i 11 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 3 o’r Ddeddf (Gofal Cymdeithasol Cymru) yn darparu ar gyfer parhad y corff corfforaethol a elwir Cyngor Gofal Cymru (a sefydlwyd gan adran 54 o Ddeddf Safonau Gofal 2000), mae’n ailenwi’r corff hwnnw ac yn ailddatgan ac yn addasu swyddogaethau gwreiddiol y corff ac yn rhoi iddo swyddogaethau ychwanegol.

Mae rheoliad 2 ac Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth.

Mae rheoliad 3 ac Atodlen 2 yn pennu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei dirymu gan y Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.