NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002.

Mae’r diwygiadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer hysbysu am farwolaeth plentyn sy’n cael ei letya mewn cartref plant diogel. Yn benodol, mae’n ofynnol i’r person cofrestredig hysbysu Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth Cymru a Lloegr (“yr OCPh”) os bydd unrhyw blentyn sy’n cael ei letya mewn cartref plant diogel yn marw.

Mae’r diwygiadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i berson cofrestredig cartref plant diogel ganiatáu i’r OCPh ymchwilio i’r farwolaeth drwy:

  1. a)

    rhoi i’r OCPh fynediad i safle’r cartref a dogfennau a chofnodion y cartref;

  2. b)

    caniatáu i’r OCPh fynd â chopïau o unrhyw un neu ragor o ddogfennau a chofnodion y cartref o’r safle ar yr amod bod gan yr OCPh drefniadau diogel i wneud hynny; ac

  3. c)

    caniatáu i’r OCPh (â chydsyniad) gyfweld yn breifat ag unrhyw blant, rhieni neu berthnasau, neu bersonau sy’n gweithio yn y cartref.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.