2017 Rhif 509 (Cy. 105)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Llygredd Morol, Cymru
Tribiwnlysoedd Ac Ymchwiliadau, Cymru

Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 20091, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 108 o’r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 316(6)(b) a (7)(f) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.