xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Trwyddedu (morol), Cymru
Llygredd Morol, Cymru
Gwnaed
29 Mawrth 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 88(3)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
2. Y diwrnod penodedig i Ran 6 o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Ebrill 2017 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym Ran 6 o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2017 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 77 i 79 i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau. | 24 Chwefror 2017 | O.S. 2017/152 (Cy. 44) |