Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Diwygio’r prif Reoliadau2.
(1)
Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn rheoliad 19—
(a)
hepgorer paragraff (1)(c);
(b)
“(1A)
Os yw unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth yn penderfynu gwneud pethau ar y cyd mewn ymateb i’r asesiad a gynhelir o dan adran 14 o’r Ddeddf, rhaid iddynt ystyried a yw’n briodol sefydlu a chynnal cronfa gyfun.”
(3)
“Adran 14A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20143(cynlluniau yn dilyn asesiadau o anghenion o dan adran 14)”.
(4)
Yn Atodlen 2 (swyddogaethau cymorth i deuluoedd), yn Nhabl 1 (swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â phlant), ar ôl yr eitem ar gyfer “Rhannau 3 a 4 o’r Ddeddf”—
(a)
“Rhan 6 o’r Ddeddf (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya)”; a
(b)
“I’r graddau y maent yn ymwneud â diwallu anghenion am ofal a chymorth plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol a darparu cyngor a chymorth i bobl ifanc o dan y Rhan honno.”
Mae adran 166 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i drefniadau partneriaeth gael eu gwneud gan gyfuniadau o awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol.
Gwnaed Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 (“y prif Reoliadau”) o dan y pwerau yn adran 166 a daethant i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae’r prif Reoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i drefniadau partneriaeth gael eu gwneud gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol penodedig o dan gyfarwyddyd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae’r prif Reoliadau hefyd yn pennu’r swyddogaethau awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol sydd i gael eu cyflawni gan y trefniadau partneriaeth.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r prif Reoliadau er mwyn ychwanegu’r swyddogaethau o dan adran 14A o Ddeddf 2014 at y rhestr o swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol a bennir i gael eu cyflawni gan y trefniadau partneriaeth.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio rheoliad 19 o’r prif Reoliadau (sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun) drwy hepgor rheoliad 19(1)(c) ac ychwanegu rheoliad newydd 19(1A) sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff partneriaeth ystyried a yw’n briodol sefydlu a chynnal cronfa gyfun os ydynt yn penderfynu gwneud pethau ar y cyd mewn ymateb i asesiad o dan adran 14 o Ddeddf 2014 (a adwaenir fel asesiad poblogaeth).
Maent hefyd yn diwygio Atodlen 2 i’r prif Reoliadau (sy’n pennu swyddogaethau cymorth i deuluoedd timau integredig cymorth i deuluoedd) er mwyn mewnosod cyfeiriad at swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf 2014, i’r graddau y maent yn ymwneud â diwallu anghenion am ofal a chymorth plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol a darparu cyngor a chymorth i bobl ifanc sy’n gadael gofal. Mae’r diwygiad hwn yn cywiro hepgoriad o Atodlen 2.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.