Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2017. Maent yn cydgrynhoi, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) fel y’u diwygiwyd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2015 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliad 3 a esbonnir isod. Bydd Rheoliadau 2015 yn parhau i fod yn gymwys i’r ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2015 ond cyn 1 Medi 2017. Nodir graddau’r dirymu yn rheoliad 3. Amlygir isod y newidiadau o ran sylwedd a wneir yn y Rheoliadau hyn.
I fod â’r hawl i gael cymorth ariannol, rhaid i fyfyriwr fod yn “fyfyriwr cymwys”. Yn fras, mae person yn fyfyriwr llawnamser cymwys os yw’r person hwnnw’n dod o fewn un o’r categorïau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1 a hefyd yn bodloni’r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 2 o’r Rheoliadau (mae darpariaethau cymhwystra ar wahân yn gymwys i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell, rhan-amser ac ôl-radd, a chyfeirir atynt yn Rhannau 11 i 13 o’r Rheoliadau).
Mae’r Rheoliadau yn gymwys i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, ble bynnag y bônt yn astudio ar gwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, o ganlyniad i symud o unrhyw un o’r ardaloedd hyn at ddiben ymgymryd â chwrs dynodedig, yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd ohono (Atodlen 1, paragraff 1(3)). Rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni hefyd unrhyw ofynion a bennir mewn mannau eraill yn y Rheoliadau; yn enwedig y gofynion penodol sy’n gymwys i bob math o gymorth ariannol.
Dim ond mewn cysylltiad â chyrsiau “dynodedig” o fewn ystyr rheoliadau 5, 66, 83, 112 ac Atodlen 2 y mae cymorth ar gael o dan y Rheoliadau.
Mae’r grantiau a’r benthyciadau a ganlyn ar gael i fyfyrwyr cymwys, mewn cysylltiad â chyrsiau llawnamser, yn ddarostyngedig i’r amodau a ragnodir yn y rheoliadau perthnasol―
Grant newydd at ffioedd (rheoliad 16);
Benthyciad newydd at ffioedd (rheoliad 19);
Benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat (rheoliad 21);
Benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam (rheoliad 22);
Grant at gostau byw myfyrwyr anabl (rheoliad 24);
Grant at deithio (rheoliadau 32 i 34);
Grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig (rheoliadau 35 i 40);
Benthyciadau at gostau byw (Rhan 6); a
Benthyciadau at ffioedd coleg (Atodlen 4).
Mae is-gategorïau o fyfyriwr cymwys, sef “myfyriwr carfan 2010”, “myfyriwr carfan 2011” a “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011” a “myfyriwr carfan 2012”. Myfyriwr carfan 2012 yw myfyriwr cymwys sy’n dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a bydd y darpariaethau perthnasol yn parhau i fod yn gymwys i fyfyrwyr sy’n dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2017. Mae’r diffiniad o fyfyriwr carfan 2012 yn rheoliad 2(1) hefyd yn darparu nad yw categorïau penodol o fyfyrwyr yn cael eu dosbarthu fel myfyrwyr carfan 2012.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â chymhwystra.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 9), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 10) ac y mae rheoliad 11 ac Atodlen 3 yn pennu’r wybodaeth y mae’n rhaid i geiswyr ei darparu.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth at ffioedd, ar ffurf grantiau at ffioedd a benthyciadau at ffioedd.
Mae rheoliad 16 yn darparu ar gyfer talu grant newydd at ffioedd i fyfyrwyr carfan 2012. Mae rheoliad 18 yn darparu ar gyfer talu benthyciadau at ffioedd i fyfyrwyr cymwys nad oes hawl ganddynt i gael grant newydd at ffioedd. Mae myfyriwr carfan newydd (ac eithrio myfyriwr carfan 2012) yn dod o fewn y categori hwnnw. Ni fydd talu benthyciadau at ffioedd o dan reoliad 18 yn gymwys ond mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012.
Mae’r benthyciadau at ffioedd sydd ar gael mewn cysylltiad â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 wedi eu nodi yn rheoliadau 19 i 22. Mae rheoliad 19 yn darparu ar gyfer talu benthyciad newydd at ffioedd i fyfyrwyr carfan 2012 sy’n ymgymryd â chyrsiau mewn sefydliadau addysgol cydnabyddedig. Mae rheoliad 20 yn darparu benthyciad ychwanegol at ffioedd hyd at uchafswm o £250. Bydd hwn yn gymwys mewn cysylltiad â chyrsiau a ddarperir gan sefydliadau rheoleiddiedig sydd â chaniatâd i godi ffioedd dros £9,000. Mae sefydliad addysgol cydnabyddedig wedi ei ddiffinio yn rheoliad 2. Mae rheoliad 21 yn darparu ar gyfer talu benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat i fyfyrwyr carfan 2012 sy’n ymgymryd â chyrsiau mewn sefydliadau preifat. Yn olaf, mae rheoliad 22 yn darparu ar gyfer talu benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam i fyfyrwyr sy’n dechrau ar gyrsiau mynediad graddedig carlam ar neu ar ôl 1 Medi 2012.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer grantiau at gostau byw, sy’n cynnwys grantiau at deithio, i gategorïau penodol o fyfyrwyr cymwys.
Mae’n darparu y bydd swm y grant cynhaliaeth neu’r grant cymorth arbennig sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys yn amrywio yn ôl pa un a yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 (rheoliad 43), neu’n fyfyriwr carfan 2011 (rheoliad 44).
Mae rheoliad 27 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y grant gofal plant sy’n daladwy mewn perthynas â chostau gofal plant yr eir iddynt mewn perthynas â phlant sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys, gan gynnwys plant a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau. Mae’r rheoliad hwn bellach hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfyngu ar swm y grant gofal plant sy’n daladwy pan na fo myfyriwr cymwys yn cyflwyno manylion y darparwr gofal plant.
Mae rheoliadau 25 i 29 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y grantiau i ddibynyddion. Mae rheoliad 30 yn darparu y cymerir i ystyriaeth incwm gweddilliol unrhyw bartner neu ddibynnydd mewn oed yn y flwyddyn ariannol gynharach ac incwm net unrhyw blentyn dibynnol yn y flwyddyn ariannol gynharach wrth gyfrifo swm unrhyw grantiau i ddibynyddion. Fodd bynnag, pan fo incwm dibynnydd am y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o fod 15 y cant yn llai na’i incwm yn y flwyddyn ariannol gynharach, caiff Gweinidogion Cymru asesu incwm y dibynnydd ar sail y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae rheoliad 30 yn darparu diffiniadau o “blwyddyn ariannol gyfredol”, “blwyddyn ariannol gynharach”, “dibynnydd”, “incwm gweddilliol” ac “incwm net” at y dibenion hyn. Mae darpariaeth gyfatebol wedi ei gwneud mewn perthynas â grantiau rhan-amser i ddibynyddion yn Rhan 12 o’r Rheoliadau hyn.
Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciadau at gostau byw.
Gall swm y benthyciad sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys amrywio yn ôl pa un a yw’r myfyriwr yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio (rheoliad 43); neu’n fyfyriwr carfan 2011 (rheoliad 44).
Mae Rhan 7 yn nodi darpariaethau cyffredinol ynglŷn â benthyciadau a wneir o dan y Rheoliadau.
Mae Rhan 8 ac Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer “benthyciadau at ffioedd coleg”. Benthyciadau yw’r rhain mewn perthynas â’r ffioedd coleg sy’n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt mewn perthynas â phresenoldeb myfyriwr cymhwysol ar gwrs cymhwysol.
Mae Rhan 9 ac Atodlen 5 yn parhau i ddarparu ar gyfer prawf modd i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau llawnamser dynodedig. Cyfrifir y cyfraniad a fynnir gan y myfyriwr ar sail incwm yr aelwyd. Mae’r cyfraniad i’w gymhwyso at grantiau a benthyciadau penodedig hyd nes y’i dihysbyddir yn erbyn swm y grantiau a’r benthyciadau penodol y mae hawl gan y myfyriwr i’w cael.
Mae Rhan 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau a benthyciadau.
Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell dynodedig.
Mae Rhan 12 ac Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chymorth ar gyfer cyrsiau rhan-amser. Mae rheoliad 86 yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser cymwys sy’n dechrau ar gyrsiau rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2014. Bydd lefel y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser yn amrywio yn ôl pa un a ddarperir y cwrs rhan-amser dynodedig gan sefydliad yng Nghymru neu sefydliad yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Bydd lefel y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser hefyd yn amrywio yn ôl pa un a ddarperir y cwrs rhan-amser dynodedig gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus neu sefydliad preifat yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Bydd y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser ar gael i fyfyrwyr rhan-amser cymwys newydd sy’n astudio ar gyrsiau rhan-amser dynodedig sydd â dwysedd astudio o dros 25 y cant.
Mae rheoliad 87 yn gwneud darpariaeth ar gyfer grant newydd at gyrsiau rhan-amser, sy’n dibynnu ar brawf modd, ac sydd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser cymwys sy’n dechrau ar gyrsiau rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2014. Bydd y grant newydd at gyrsiau rhan-amser ar gael i fyfyrwyr rhan-amser cymwys sy’n astudio ar gyrsiau rhan-amser dynodedig sydd â dwysedd astudio o dros 50 y cant.
Mae Rhan 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anableddau.
Mae rheoliadau 24, 27, 32, 35, 38, 88 a 117 yn gwneud darpariaeth (yn rhannol) ar gyfer myfyrwyr a ddaw’n gymwys i gael mathau penodol o gymorth ran o’r ffordd drwy flwyddyn academaidd. Maent yn darparu mai dim ond mewn perthynas â’r chwarteri academaidd yn dilyn y digwyddiad sy’n sbarduno eu cymhwystra y bydd gan y myfyrwyr hynny hawl i gael y cymorth perthnasol bellach.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.