NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli gyda diwygiadau Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/812 (Cy. 202)) (“Rheoliadau 2016”).

Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”) yn darparu ei bod yn drosedd gollwng mwg o simnai adeilad neu simnai sy’n gwasanaethu ffwrnais boeler sefydlog neu beiriannau diwydiannol, os yw’r simnai honno mewn ardal rheoli mwg. Er hynny, yn rhinwedd adran 20(3) mae’n amddiffyniad os gellir profi mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

Yn rhinwedd adran 20(6), ystyr “tanwydd awdurdodedig” yw tanwydd y datganwyd drwy reoliadau ei fod wedi ei awdurdodi. Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o’r fath yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu pob tanwydd sydd wedi ei awdurdodi ar hyn o bryd i’w ddefnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf 1993.

Mae pob un o’r tanwyddau a restrwyd yn yr Atodlen i Reoliadau 2016 yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau i fod yn danwyddau awdurdodedig, ac eithrio bod newid wedi ei wneud i fanyleb un tanwydd (ALDI Winter Flame Smokeless Fuel).

Mae un ar ddeg o danwyddau ychwanegol wedi eu hawdurdodi am y tro cyntaf (tri math o Big K Fire Log, dau fath o Gardeco Fire Log, dau fath o Homefire Fire Log, Hot Rocks, dau fath o La Hacienda Fire Log a Red Drops).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.