NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn gwneud darpariaeth ynghylch bilio, casglu a gorfodi’r dreth gyngor.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 o ran Cymru i gymryd ystyriaeth o bremiymau’r dreth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi a gyflwynir o dan adrannau 12A a 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a fewnosodir i’r Ddeddf honno gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Mae’r Rheoliadau hyn yn galluogi i’r premiymau gael eu bilio a’u gorfodi.

Mae’r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bilio, cyn cyfrifo’r swm sydd i’w godi mewn cysylltiad ag annedd, gymryd camau rhesymol i ganfod a yw’r swm yn destun premiwm, ac os ydyw, beth yw swm y premiwm (gweler rheoliad 2(4)). Ar ôl cymryd y camau rhesymol hynny, rhaid i’r awdurdod bilio wneud tybiaethau penodol (gweler rheoliad 2(5)). Pan fo person wedi cael gwybod bod tybiaeth wedi ei gwneud ond bod ganddo reswm dros gredu bod y dybiaeth honno yn anghywir, rhaid i’r person hysbysu’r awdurdod yn ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod (gweler rheoliad 2(6)).

Mae Atodlen 1 i Reoliadau 1992 yn gwneud darpariaeth ynghylch talu’r dreth gyngor mewn rhandaliadau. Mae’r diwygiadau yn nodi’r amgylchiadau pryd y bydd rhaid i awdurdod bilio addasu’r rhandaliadau sy’n daladwy pan fo hysbysiad galw am dalu wedi ei gyflwyno ar y sail bod premiwm yn gymwys ai peidio (gweler rheoliad 2(7)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.