- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (“Rheoliadau 1993”) sy’n gwneud darpariaeth ynghylch materion sydd i’w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu’r dreth gyngor, a’r wybodaeth sydd i’w darparu gyda nhw. Mae’r diwygiadau yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 neu ar ôl hynny.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1993 o ganlyniad i’r pŵer a roddir i awdurdodau bilio i godi swm uwch o dreth gyngor (“premiwm”) ar anheddau gwag hirdymor ac anheddau sy’n cael eu meddiannu o bryd i’w gilydd. Mae’r pŵer i godi premiwm wedi ei roi i awdurdodau bilio yng Nghymru gan adrannau 12A a 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”), a fewnosodwyd yn y Ddeddf honno gan adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Mae Atodlen 1 i Reoliadau 1993 yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu. Mae’r diwygiadau i Atodlen 1 yn ei gwneud yn ofynnol i gynnwys datganiad mewn hysbysiadau galw am dalu o nifer y dyddiau y tybiwyd bod premiwm yn gymwys iddynt (os oes rhai). Pan fo premiwm yn gymwys, mae rhaid i hysbysiad galw am dalu gynnwys datganiad o swm y premiwm a’r rheswm dros ei godi, a datganiad o’r gofyniad i’r sawl sy’n cael yr hysbysiad hysbysu’r awdurdod bilio am wybodaeth benodol, a chanlyniadau posibl methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno.
Mae Atodlen 2 yn nodi’r wybodaeth sydd i’w darparu gyda hysbysiadau galw am dalu’r dreth gyngor. Mae’r diwygiadau i Atodlen 2 yn ei gwneud yn ofynnol i gynnwys gwybodaeth am y premiwm yn y nodiadau esboniadol sy’n dod gyda’r hysbysiadau galw am dalu. Mae’r wybodaeth yn cynnwys datganiad ynglŷn â pha un a yw’r awdurdod bilio wedi penderfynu codi premiwm ar gyfer y flwyddyn berthnasol, ac os penderfynwyd hynny, datganiad o swm y premiwm, ynghyd â nodyn cyffredinol ynghylch yr amgylchiadau pan fo premiwm yn gymwys a nodyn cyffredinol o’r amgylchiadau pan fo annedd yn esempt rhag y premiwm yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 12A(4) neu 12B(5) o Ddeddf 1992.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: