(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurfiau at ddibenion Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 (p. 66) (“Deddf 1981”) a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017. Maent yn gymwys i brynu tir yn orfodol yng Nghymru.
Mae’r ffurfiau a ragnodir yn adlewyrchu’r newidiadau i’r weithdrefn datganiad breinio cyffredinol a wnaed gan Ran 7 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22).
Mae rheoliad 3(1)(a) yn darparu mai ffurf datganiad breinio cyffredinol, at ddibenion adran 4(1) o Ddeddf 1981, yw Ffurflen 1 yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn (neu ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi).
Mae rheoliad 3(1)(b) yn darparu mai ffurf hysbysiad sy’n pennu’r tir ac yn datgan effaith datganiad breinio cyffredinol, at ddibenion adran 6(1) o Ddeddf 1981, yw Ffurflen 2 yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn (neu ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi).
Mae rheoliad 4 yn dirymu gydag arbediad Reoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) 1990 (O.S. 1990/497) yng Nghymru.
Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.