Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017, a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran prynu tir yn orfodol yng Nghymru.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “deddfiad arbennig” (“special enactment”) yw—

    1. a

      Deddf leol neu breifat sy’n awdurdodi prynu tir yn orfodol a nodwyd yn benodol yn y Ddeddf honno, neu

    2. b

      darpariaeth sydd—

      1. i

        wedi ei chynnwys mewn Deddf ac eithrio Deddf leol neu breifat, a

      2. ii

        yn awdurdodi prynu tir yn orfodol a nodwyd yn benodol yn y Ddeddf honno;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981; ac

  • ystyr “gorchymyn perthnasol” (“relevant order”) yw gorchymyn sy’n darparu bod y Ddeddf i fod yn gymwys i brynu tir yn orfodol y mae’n ei awdurdodi fel petai’r gorchymyn yn orchymyn prynu gorfodol.

2

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae pryniant gorfodol wedi ei awdurdodi—

a

gan orchymyn prynu gorfodol, ar y diwrnod y caiff y gorchymyn ei gadarnhau gan Weinidog neu Weinidogion Cymru neu awdurdod arall, neu ei wneud gan Weinidog neu Weinidogion Cymru;

b

gan orchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 19924, ar y diwrnod y mae’r Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru yn penderfynu gwneud y gorchymyn o dan adran 13(1) o’r Ddeddf honno;

c

gan orchymyn adolygu harbwr, gorchymyn grymuso harbwr neu orchymyn cau harbwr o dan Ddeddf Harbyrau 19645, ar y diwrnod y gwneir y gorchymyn gan y Gweinidog priodol6 neu Weinidogion Cymru neu berson sydd wedi ei ddynodi mewn gorchymyn a wnaed o dan adran 42A7 o’r Ddeddf honno;

d

gan unrhyw orchymyn perthnasol arall, ar y diwrnod y gwneir y gorchymyn gan Weinidog neu Weinidogion Cymru; neu

e

gan ddeddfiad arbennig8, ar y diwrnod y deddfir y deddfiad arbennig.

Ffurfiau rhagnodedig mewn cysylltiad â datganiadau breinio cyffredinol3

1

Mewn perthynas â phrynu tir yn orfodol a awdurdodir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 —

a

at ddibenion adran 4(1) o’r Ddeddf, ffurf ragnodedig datganiad breinio cyffredinol yw Ffurflen 1;

b

at ddibenion adran 6(1) o’r Ddeddf, ffurf ragnodedig hysbysiad sy’n pennu’r tir ac sy’n datgan effaith datganiad breinio cyffredinol yw Ffurflen 2.

2

Mae’r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at ffurflen â rhif yn gyfeiriadau at y ffurflen sy’n dwyn y rhif hwnnw yn yr Atodlen neu at ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.

Dirymu ac arbed4

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) 19909 wedi eu dirymu o ran Cymru.

2

Mae’r Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â phrynu tir yn orfodol a awdurdodir cyn ^ Ebrill 2017.

Lesley GriffithsYsgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru