NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) (O.S. 2004/2732 (Cy. 239)). Deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.

Mae rheoliad (2) yn diwygio Rheoliadau 2004 i ragnodi ffurfiau ychwanegol at ddibenion Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) (“DCT 1981”). At ddibenion adran 15(4)(e) o DCT 1981 a pharagraff 6(4)(e) o Atodlen 1 iddi, ffurf y datganiad am effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 (p. 66) yw Rhan 1 o Ffurf 9A newydd. At ddibenion adran 15(4)(f) o DCT 1981 a pharagraff 6(4)(f) o Atodlen 1 iddi, y ffurf ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod caffael yw Rhan 2 o Ffurf 9A newydd.

Mae rheoliad 2(3)(b) yn mewnosod Ffurf 9A newydd (yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn) yn yr Atodlen i Reoliadau 2004.

Mae rheoliad (c) yn disodli Ffurf 10 yn Rheoliadau 2004 ac yn ei lle yn rhoi fersiwn newydd (yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn).

Mae rheoliad (d) yn disodli Ffurf 11 yn Rheoliadau 2004 ac yn ei lle yn rhoi fersiwn newydd (yn Rhan 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn).

Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn prynu gorfodol a wneir gan Weinidogion Cymru neu sy’n ddarostyngedig i gadarnhad gan Weinidogion Cymru, ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.

Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.