2017 Rhif 357 (Cy. 87)

Caffael Tir, Cymru

Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7 a 15 o Ddeddf Caffael Tir 19811 a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.

2

Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn prynu gorfodol a wneir gan Weinidogion Cymru neu sy’n ddarostyngedig i gadarnhad ganddynt ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.

Diwygiadau i Reoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 20042

1

Mae Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 20043 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3 (ffurfiau rhagnodedig mewn cysylltiad â gorchmynion prynu gorfodol)—

a

ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

4A

At ddibenion adran 15(4)(e) o’r Ddeddf a pharagraff 6(4)(e) o Atodlen 1 iddi, ffurf y datganiad am effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 19814 y mae’n rhaid ei defnyddio yw Rhan 1 o Ffurf 9A.

4B

At ddibenion adran 15(4)(f) o’r Ddeddf a pharagraff 6(4)(f) o Atodlen 1 iddi, y ffurf ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod y mae’n rhaid ei defnyddio yw Rhan 2 o Ffurf 9A.

b

ym mharagraff (5) yn lle “adran 15” rhodder “adran 15(5)” ac yn lle “pharagraff 6” rhodder “pharagraff 6(5)”.

3

Yn yr Atodlen—

a

yn y cynnwys, ar ôl yr eitem ar gyfer Ffurf 9, mewnosoder—

Ffurf 9A

Ffurf ar ddatganiad o effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 ac ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod

b

ar ôl Ffurf 9, mewnosoder y ffurf yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn;

c

yn lle Ffurf 10, rhodder y ffurf yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn;

d

yn lle Ffurf 11, rhodder y ffurf yn Rhan 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Lesley GriffithsYsgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLEN

RHAN 1

Reheoliad 2(3)(b)

Image_r00001

Image_r00002

Image_r00003

RHAN 2

Rheoliad 2(3)(c)

Image_r00004

Image_r00005

Image_r00006

RHAN 3

Rheoliad 2(3)(d)

Image_r00007

Image_r00008

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) (O.S. 2004/2732 (Cy. 239)). Deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.

Mae rheoliad (2) yn diwygio Rheoliadau 2004 i ragnodi ffurfiau ychwanegol at ddibenion Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) (“DCT 1981”). At ddibenion adran 15(4)(e) o DCT 1981 a pharagraff 6(4)(e) o Atodlen 1 iddi, ffurf y datganiad am effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 (p. 66) yw Rhan 1 o Ffurf 9A newydd. At ddibenion adran 15(4)(f) o DCT 1981 a pharagraff 6(4)(f) o Atodlen 1 iddi, y ffurf ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod caffael yw Rhan 2 o Ffurf 9A newydd.

Mae rheoliad 2(3)(b) yn mewnosod Ffurf 9A newydd (yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn) yn yr Atodlen i Reoliadau 2004.

Mae rheoliad (c) yn disodli Ffurf 10 yn Rheoliadau 2004 ac yn ei lle yn rhoi fersiwn newydd (yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn).

Mae rheoliad (d) yn disodli Ffurf 11 yn Rheoliadau 2004 ac yn ei lle yn rhoi fersiwn newydd (yn Rhan 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn).

Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn prynu gorfodol a wneir gan Weinidogion Cymru neu sy’n ddarostyngedig i gadarnhad gan Weinidogion Cymru, ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.

Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.