Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â Rheoliadau 19866

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person, cyn 1Ebrill 2017, yn mynd i gost mewn cysylltiad â phrawf golwg gan ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd, heb i daleb gael ei chwblhau, ac—

a

yn union cyn y dyddiad hwnnw, y byddai hawl wedi bod gan berson i gael prawf golwg o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol yn rhinwedd paragraff 2(q) o reoliad 13 o Reoliadau 1986 (profion golwg – cymhwystra); a

b

ond am gymhwyso paragraff (2), y byddai hawl y person hwnnw yn peidio yn rhinwedd y diwygiadau a wneir i reoliad 13 gan reoliad 3 o’r Rheoliadau hyn.

2

Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae rheoliad 6 o Reoliadau 1997 (taliadau i gleifion mewn cysylltiad â phrofion golwg) yn cael effaith mewn perthynas â chymhwystra’r person hwnnw i gael taliad fel—

a

pe na bai’r diwygiadau a wneir gan reoliad 3 o’r Rheoliadau hyn wedi dod i rym; a

b

pe bai’r person hwnnw yn “eligible person” at ddibenion rheoliad 6(1) o Reoliadau 1997.