xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENArbedion a darpariaethau trosiannol

Achosion presennol CGC

8.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn 3 Ebrill 2017, mae person a drosglwyddir—

(a)yn ddarostyngedig i achos gerbron Pwyllgor Ymchwilio neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer CGC, neu

(b)yn berson y mae CGC wedi cael gwybodaeth amdano a allai arwain at achos o’r fath.

(2Er gwaethaf y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2, ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, mae achosion o’r fath neu ddarpar achosion o’r fath i gael eu diweddu gan GCC yn unol â’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014(1).

(1)

Mae Rheolau Cyngor Gofal Cymru (Addasrwydd i Ymarfer) 2014 wedi eu gwneud o dan adrannau 59 ac 71 o Ddeddf 2000. Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn Rhannau 2 i 10 o’r Ddeddf (yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig ac i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) a hefyd adran 185 a Rhan 2 o Atodlen 3, sy’n diddymu darpariaethau penodol yn Neddf 2000. Mae’r ddarpariaeth hon yn arbed y Rheolau at y dibenion a bennir yn y paragraff.