xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ffioedd trwyddedu morol y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas â hwy o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.
O dan adran 67(1)(b) o’r Ddeddf honno, caiff yr awdurdod trwyddedu priodol ei gwneud yn ofynnol i ffi fynd gyda chais am drwydded forol. Mae rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn darparu bod y ffi ar gyfer penderfynu ar gais am drwydded naill ai yn ffi benodedig neu’n swm a gyfrifir drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â £120.
Mae Band 1 yn gymwys i geisiadau sy’n ymwneud â mân weithgareddau. Mae Band 2 yn gymwys i unrhyw gais nad yw’n dod o fewn Band 1 nac o fewn y Band hwnnw yn unig, ac sy’n ymwneud â “gweithgaredd penodedig”. Mae “gweithgaredd penodedig” wedi ei ddiffinio ym mharagraffau 2 a 3 o Atodlen 1 ac mae’n cynnwys dyddodion o fewn ardal drwyddedu forol y DU, adeiladu, addasu neu wella gweithfeydd a defnyddio cerbyd neu lestr i symud ymaith sylweddau neu wrthrychau o wely’r môr, ond nid yw’n cynnwys gweithgareddau penodol. Mae Band 3 yn gymwys i unrhyw gais sy’n ymwneud ag unrhyw weithgaredd nad yw’n dod yn unig o fewn Band 1 na Band 2.
Mae rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn darparu bod ffi benodedig ar gyfer bodloni amodau trwydded sy’n ymwneud â thrwyddedau morol sy’n dod o fewn disgrifiadau ceisiadau Band 1 neu Fand 2 a nodir yn Atodlen 1. Cyfrifir pob ffi arall ar gyfer gwaith monitro drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â £120.
Mae rheoliad 6 ac Atodlen 3 yn darparu bod ffioedd penodedig ar gyfer amrywiadau penodol i drwydded forol ac ar gyfer trosglwyddo trwydded forol. Pan fo amrywiad i drwydded forol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod trwyddedu ymgynghori ag unrhyw un heblaw am y trwyddedai, cyfrifir y ffioedd ar gyfer amrywio trwydded forol drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â £120.
Mae rheoliadau 7 i 10 yn cynnwys darpariaethau ychwanegol sy’n ymwneud â thalu’r cyfryw ffioedd, blaendaliadau ac ad-daliadau.
Mae rheoliad 11 yn dirymu Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”), ac mae rheoliad 12 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed. Yn rhinwedd y darpariaethau hyn, mae Rheoliadau 2011 yn gymwys i unrhyw gais am drwydded forol neu i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol a ddaeth i law cyn 1 Ebrill 2017 (pa un ai y penderfynwyd ar y cais gan Weinidogion Cymru cyn y dyddiad hwnnw ai peidio). Mae rheoliad 12(3) yn egluro y bydd ffioedd monitro yn gymwys i drwyddedau morol ni waeth pa un ai y rhoddwyd trwyddedau o’r fath cyn 1 Ebrill 2017.
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn penderfynu’r holl ffioedd y caniateir eu codi mewn perthynas â thrwyddedu morol. Mae’r ffioedd ychwanegol y caniateir eu codi yn cynnwys ffioedd o dan adrannau 67(5), 67A a 72A(6) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a ffioedd o dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r ffioedd hynny.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.